Lleolir Ysgol Gynradd Peniel mewn ardal wledig rhyw dair milltir i'r gogledd o dre. Caerfyrddin. Agorwyd yr Ysgol bresennol mis Medi 2009. Mae'n gwasanaethu ardaloedd Peniel, Bronwydd, Rhydargaeau a Phont-ar-Sais.
Mae'r ysgol wedi ei gosod yng nghategori A. Dysgir y rhan helaeth o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg.
LLWYDDO GYDA'N GILYDD
Ein gweledigaeth yw darparu plant i ddatblygu'r medrau, sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i fod yn aelodau gofalus a defnyddiol o'n cymdeithas gyfnewidiol, tu fewn i amgylchedd hapus a sefydlog ac annog dilyniant trwy gamau datblygiad plentyn i fod yn ddysgwr gydol oes.
Ymdrecha plant, athrawon a rhieni Ysgol Peniel i weithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau dechreuad da i'r disgyblion. Rydym yn gweithio'n ddiwyd ond caen ddifyrrwch a hapusrwydd hefyd.
Porwch drwy ein gwefan am ragor o wybodaeth ac i brofi ethos bywiog a llewyrchus yr ysgol hon.

Cliciwch ar y logo i wrando ar raglen radio dosbarth Hafod Mawrth 2020!